Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi canmol yr ymosod yn dilyn buddugoliaeth gartref gynta’r tîm o 2-0 dros Huddersfield yn Stadiwm brynhawn dydd Sadwrn.

Sgoriodd Tammy Abraham gôl y naill ochr i hanner amser i sicrhau’r triphwynt ar ôl tair colled o’r bron yn Stadiwm Liberty.

Gwall gan y golwr Jonas Lössl arweiniodd at y gôl gyntaf cyn yr egwyl, ac fe rwydodd am yr ail waith dair munud ar ôl yr hanner.

Dywedodd Paul Clement: “O’r chwiban cyntaf roedden ni’n bositif yn y ffordd yr aethon ni ati, gyda chryn bwysau ym mlaen y cae.

“Ro’n i hefyd yn blesd o ran ein bwriad i ymosod o’r cychwyn cyntaf, gan roi’r bêl mewn bylchau y tu ôl yr amddiffyn.

“Roedd rhedwyr yn fodlon ymosod ar wagle ac yn amlwg, roedd y gôl cyn hanner amser yn gamgymeriad.

“Ond byddwn i’n dadlau ein bod ni wedi ymarfer y sefyllfa honno, fe wnaethon ni ddyfalbarhau i bwyso ym mlaen y cae a gorfodi’r gwall, ac roedd yna bêl dda i ddarganfod Tammy.”

Cyn ddoe, fe ddaeth eu hunig fuddugoliaeth oddi cartref yn Crystal Palace, ac roedden nhw wedi methu â sgorio mewn pum gêm allan o saith.

Ond fe sicrhaodd Tammy Abraham, sydd ar fenthyg o Chelsea am dymor, fod yr Elyrch yn codi uwchlaw’r safleoedd disgyn unwaith eto.

Ac roedd Paul Clement yn hapus gyda’r llechen lân – eu pedwaredd mewn wyth gêm.

“Efallai bod y siâp wedi helpu i raddau, ond dw i’n credu bod y feddylfryd o weithio’n galed dros ei gilydd a chael llawer o egni ar y cae wedi helpu.

“Ry’n ni’n gwybod beth all Tammy ei wneud, mae ganddo fe reddf dda i wybod lle dylai e fod, pryd mae’r bêl i fyny ac o gwmpas y cwrt cosbi.

“Ro’n i’n blesd gyda’i gêm gyfan; dyma’i berfformiad gorau lle wnaeth e wella gyda’i gefn at y gôl.”

Huddersfield

Mae Huddersfield bellach heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm.

Ond fe gawson nhw gyfle’n gynnar yn y gêm wrth i Tom Ince gwympo yn y cwrt cosbi yn dilyn tacl gan y cefnwr Martin Olsson.

Dywedodd rheolwr Huddersfield, David Wagner mai “penderfyniad 50-50” oedd e.

Doedd e ddim yn awyddus i roi’r bai ar ei golwr am y canlyniad, ond fe ddywedodd nad oedd ei dîm wedi bod yn ddigon da gyda’r bêl wrth eu traed.