AFC Flyde 1–0 Wrecsam       
                                                           

Mae Wrecsam allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Flyde yn y bedwraedd rownd ragbrofol brynhawn Sadwrn.

Teithiodd bron i 600 o gefnogwyr Wrecsam i Mill Farm i wylio’r Dreigiau yn colli o gôl i ddim.

Daeth unig gôl y gêm wyth munud cyn yr egwyl wrth i Jack Muldoon osod y bêl yn daclus i Danny Rowe rwydo o bymtheg llath.

Daeth cyfleoedd gorau’r Cymry i unioni ar yr awr ond cafodd dau beniad gan Scott Boden ac Olly Marx eu harbed gan Jay Lynch yn y gôl i Flyde.

.

AFC Flyde

Tîm: Lynch, Francis-Angol, Bond, Finley, Rowe, Muldoon (Tasdemir 89’), Taylor (Smith 76’), Grand, Richards (Slott 69’), Burke, Edmundson

Gôl: Rowe 37’

Cerdyn Melyn: Edmundson 47’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Hurst (Rutherford 64’), Jennings, Smith, Mackreth (Wright 78’), Wedgbury, Holroyd, Carrington, Marx, Kelly, Boden (Massanka 64’)

Cerdyn Melyn: Hurst 24’

.

Torf: 1,390