Forest Green 0–4 Casnewydd   
                                                    

Dychwelodd Casnewydd i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth oddi gartref dda yn erbyn Forest Green ar y New Lawn brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd Padraig Amond ddwy waith i’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf cyn i Scot Bennett a Shawn McCoulsky ychwanegu dwy arall wedi’r egwyl.

Rhoddodd Amond yr Alltudion ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf ac ychwanegodd y Gwyddel ei ail ychydig funudau cyn yr egwyl, yn ymateb yn gynt na neb wedi i Sam Russell arbed ergyd Frank Nouble.

Ychwanegodd Bennett y drydedd ddeuddeg munud o’r diwedd wedi tafliad hir Ben Tozer a chwblhawyd y sgorio gyda pheniad yr eilydd, Shawn McCoulsky, bedwar munud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Mike Flynn i’r chweched safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Forest Green

Tîm: Russell, Bennett, Collins, Roberts, Wishart, Cooper (Bugiel 65’), Traore, Brown (Marsh-Brown 45’), Osbourne, Doidge, James (Randall-Hurren 45’)

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, Bennett, Demetriou, Pipe (O’Brien 77’), Tozer, Dolan, Labadie (Owen-Evans 89’), Butler,Amond, Nouble (McCoulsky 82’)

Goliau: Amond 14’, 41’, Bennett 78’, McCoulsky 86’

Cardiau Melyn: Bennett 50’, Labadie 56’, White 90’

.

Torf: 2,864