Mae Clwb pêl-droed RY hyl wedi apwyntio Mark Connolly yn rheolwr dros dro, ar ôl i Niall McGuinness ymddiswyddo yn dilyn y golled i Landudno Albion yn rownd gyntaf Cwpan Cymru ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr y clwb, Mike Jones, wedi dweud wrth golwg360 bod nhw’n drist iawn dros ymadawiad Niall McGuinness, ond bod yn rhaid bod yn bositif.

“Mae Niall wedi gweithio’n galed iawn ac wedi bod yn rhan fawr o’r clwb ers blynyddoedd,” meddai. “Mae wedi gwneud gwaith da yn yr academi a’r gymuned.

“Heb os, oedd mynd allan o Gwpan Cymru yn ergyd, colli 3-2 i dîm mewn cynghrair isel. Mae Mark Connolly wedi cytuno i fod yn rheolwr dros dro a bydd Jamie Brewerton yn ei gynorthwyo.

“Gyda chyfnod prysur o’n blaen, roedd hi’n bwysig cael rhywun i mewn yn sydyn. Rydan ni’n dal yn obeithiol o ennill dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair, rydan angen chwarae Airbus a Chaernarfon eto… ond Gresffordd dydd Sadwrn sydd ar feddwl pawb.

Mae Rhyl ar hyn o bryd yn yr wythfed safle yng Nghynghrair Huws Gray unarddeg pwynt tu ôl i Gaernarfon, sydd ar y brig.