Mae rheolwr tîm dan 21 Lloegr, Aidy Boothroyd wedi canmol ymosodwr ifanc Abertawe, Tammy Abraham ar ôl ei gôl yn y fuddugoliaeth dros yr Alban ym Middlesbrough nos Wener.

Sgoriodd e o’r smotyn cyn creu gôl i Dominic Solanke wrth i Loegr ennill o 3-1 yn y gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2019.

Fe darodd e’r postyn a chael ergyd wedi’i chlirio oddi ar linell y gôl wrth i Loegr symud i frig y tabl ar ôl tair gêm yn yr ymgyrch.

Mae e wedi sgorio pum gôl mewn 13 o gemau hyd yma, yn ychwanegol at ei dair gôl dros ei glwb y tymor hwn.

Dywedodd Aidy Boothroyd: “Mae e’n un o’r chwaraewyr hynny fydd yn mynd drwy gyfnodau hesb heb sgorio ond mae e mor alluog a brwdfrydig fel ei fod e’n goleuo’r ystafell newid a’r cae wrth fynd allan.

“Mae pawb yn cael hwb oddi wrtho fe, mae ganddo fe siawns go dda o ddatblygu’n chwaraewr da iawn.

“Dw i erioed wedi cwrdd ag unrhyw un 19 neu 20 oed sy’n amyneddgar. Maen nhw eisiau popeth ar unwaith… ond mae hynny’n dda. Mae’n dda cael awchu a bod yn uchelgeisiol.

“Mae e eisiau gwella, maen nhw i gyd felly, ac yn gweld y cyfle y gallen nhw ei gael yn y prif dîm ac maen nhw’n gweithio’n galed i gyrraedd y fan honno.”