Mae’r Dreigiau wedi cael dechrau addawol i’r tymor gyda Dean Keates wrth y llyw. Gêm gyfartal gafodd y tîm ddydd Sadwrn yn erbyn y ceffylau blaen, Sutton, sy’n eu gadael nhw yn y chweched safle – dau bwynt y tu ôl i’r arweinwyr newydd Dover.
Mae Ioan Ellis o Benrhyndeudraeth yn un o’r cefnogwyr selog sy’n heidio i’r Cae Ras bob dydd Sadwrn – a rhyw ambell gêm oddi cartref.
“Roedd taid yn cefnogi Wrecsam felly roedd yn benderfyniad hawdd. Wnes i ddechrau mynd yn gyson tua phum mlynedd yn ôl ar ôl i fi gael car. Mae llond car ohonon ni’n mynd ond mae’n dipyn o ras weithiau oherwydd fy swydd fel dyn post.
“Does dim llawer o atgofion da gennyf o gefnogi Wrecsam, dyddiau du maen nhw wedi bod ond roedd ennill Tlws FA Lloegr yn erbyn Grimsby yn Wembley yn 2013 yn ddiwrnod da, ond roedd colli i North Ferriby a Chasnewydd yn yr un stadiwm yn ddigalon.
“Tydi safon y gynghrair ddim yn dda i fod yn onest, a dwi’n meddwl mai’r tymor hon yw’r cyfle gorau i ni gael dyrchafiad, gyda pharch mae mynd i stadiwm fel North Ferriby yn ddigalon.”
Manny Smith
“O ran y tîm dwi’n teimlo ein bod ni dal eisiau ( fel bob clwb) yr ymosodwr 20 gôl y tymor, ac amddiffyn da, yn enwedig Manny Smith, pam ei werthu yn y lle cyntaf? Heb os, amddiffynnwr gorau’r gynghrair. Mae’r tîm ar hyn o bryd yn chwarae fel oedd Keates – gweithio’n galed.
“Roedd dydd Sadwrn yn erbyn Sutton yn anodd, roedden nhw’n dîm corfforol, ac i fod yn onest roedd eu gôl yn dod ers peth amser, byddan o gwmpas y brig diwedd y tymor buaswn yn tybio, ond mi fethodd eilydd ni, Ntumba Massanka tri chyfle. Rwy’n mynd i Halifax nos Fawrth, dyma fydd fy ymweliad cyntaf i yno. Mae Halifax ar rediad da ar hyn o bryd wedi ennill tair o’r pump diwethaf.
“Roedd y daith i Bortiwgal yn yr haf yn wych, roedd yn dda i weld y clwb yn rhoi amser i’r cefnogwyr, hefyd yn byw ger Porthmadog mae’n wych gweld yr hogyn lleol Leo Smith yn y garfan, yn fy marn i mi ddylai ddechrau bob gêm. Ond y peth fwyaf rydan ni’r cefnogwyr eisiau ei weld yw Wrecsam nôl yn y Gynghrair pêl droed,” meddai