Wrecsam 1–1 Sutton                                                                         

Ildiodd Wrecsam gôl hwyr wrth i Sutton United gipio pwynt ar y Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos fod gôl gynnar Marcus Kelly’n mynd i fod yn ddigon i’r Dreigiau ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn y diwedd wedi gôl Ross Lafayette yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Ychydig dros chwarter awr o chwarae oedd wedi bod pan roddodd Kelly’r tîm cartref ar y blaen yn dilyn gwaith creu Chris Holroyd.

Ac felly yr arhosodd hi tan y munud cyntaf o’r amser brifo ar ddiwedd y gêm pan rwydodd Lafayette gôl wych i gipio pwynt i’w dîm.

O ganlyniad, mae Wrecsam yn llithro i’r chweched safle yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Coddington, Jennings, Smith, Rutherford (Mackreth 88’), Roberts, Pearson, Carrington, Kelly, Wright (Hurst 64’), Holroyd, Reid (Massanka 69’)

Gôl: Kelly 16’

Cardiau Melyn: Pearson 50’, Hurst 68’

.

Sutton

Tîm: Butler, Thomas, John, Walton, Downer, Collins, Bailey, Taylor, Wright (Thomas 75’), Emmanuel (Jeffrey 60’), Lafayette

Gôl: Lafayeette 90+1’

Cerdyn Melyn: Thomas 69’

.

Torf: 4,815