Luton 3–1 Casnewydd                                                                      

Ildiodd Casnewydd dair gôl yn y 35 munud cyntaf wrth golli oddi cartref yn erbyn Luton yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o fewn deuddeg munud ar Ffordd Kenilworth diolch i gic rydd Alan Sheehan.

Dyblodd Danny Hylton y fantais ddeg munud yn ddiweddarach cyn ychwanegu ei ail ef a thrydedd ei dîm o’r smotyn ddeg munud cyn yr egwyl yn dilyn llawiad Ben Tozer.

Rhwydodd Joss Labadie foli daclus i’r ymwelwyr o Gymru yn gynnar yn yr ail hanner ond gôl gysur yn unig oedd honno yn y diwedd.

Mae’r Alltudion yn llithro allan o’r safleoedd ail gyfle i’r degfed safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Luton

Tîm: Stech, Stacey, Cuthbert, Sheehan, Potts, Rea, Cornick (Justin 85’), Gambin (Cook 72’), Lee, Collins, Hylton

Goliau: Sheehan 12’, Hylton 22’ [c.o.s.] 35’

Cardiau Melyn: Collins 49’, Potts 66’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, O’Brien, Demetriou, White, Willmott (Reynolds 72’), Labadie (McCoulsky 78’), Tozer, Rigg, Amond (Quigley 76’), Nouble

Gôl: Labadie 55’

Caridiau Melyn: White 42’, O’Brien 68’

.

Torf: 7,681