Caerdydd 0–0 Derby                                                                          

Mae Caerdydd yn parhau ar frig y Bencampwriaeth er gwaethaf gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Derby yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Junior Hoilett a ddaeth agosaf i’r Adar Gleision yn yr hanner cyntaf ond dros y trawst yr aeth ei ergyd.

Nathaniel Mendez-Laing a gafodd gyfle gorau’r tîm cartref wedi’r egwyl ond yr ymwelyr a ddaeth agosaf at gipio’r tri phwynt.

Tarodd Craig Forsyth y trawst cyn i David Nugent orfodi arbediad hwyr gan Neil Etheridge.

Mae’r pwynt yn ddigon i gadw Caerdydd ar frig tabl y Bencampwriaeth ond caeodd Wolves y bwlch i bwynt gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Burton.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Bamba, Mendez-Laing, Damour (Tomlin 69’), Ralls, Hoilett (Feeney 83’), Zohore

Cardiau Melyn: Damour 66’, Bennett 79’

.

Derby

Tîm: Carson, Wisdom, Keogh, Davies, Forsyth, Huddlestone, Ledley, Russell (Nugent 75’), Johnson, Lawrence, Winnall (Martin 45’)

Cerdyn Melyn: Johnson 87’

.

Torf: 18,480