Mae rheolwr tîm pêl-droed Real Madrid, Zinedine Zidane yn mynnu na fydd gwrthdaro rhyngddyn nhw a Chymru tros ffitrwydd Gareth Bale.

Mae’n aneglur ar hyn o bryd a fydd yr ymosodwr yn holliach i wynebu Espanyol yn y Bernabeu nos Sul.

Fe ddaeth oddi ar y cae yn ystod buddugoliaeth ei dîm o 3-1 dros Borussia Dortmund yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth ar ôl sgorio gôl.

Ond dydy e ddim wedi ymarfer ers y gêm oherwydd anaf i gyhyr ac mae Zinedine Zidane yn mynnu nad oes problem fawr o ran ei ffitrwydd.

Mae disgwyl iddo fe fod yn holliach ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Georgia (Hydref 6) a Gweriniaeth Iwerddon (Hydref 9).

Dywedodd Zinedine Zidane: “O ran y tîm cenedlaethol, dw i ddim yn credu y bydd problem rhwng Madrid a Chymru. Mae’n dibynnu arno fe, ar ei ffitrwydd. Byddwn ni’n cymryd y peth un dydd ar y tro.”