Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi dweud ei fod e eisiau dewis tîm positif ar gyfer y daith i Stadiwm Llundain i herio West Ham y prynhawn yma.

Ar hyn o bryd, mae’r amddiffyn yn perfformio dipyn gwell na’r ymosod, ac mae prinder goliau wedi bod yn broblem yn ddiweddar.

Fe allai Paul Clement ddewis tri ymosodwr – Wilfried Bony, Tammy Abraham a Jordan Ayew yn y rheng flaen.

Ond mae e wedi dweud ei fod e’n awyddus i ddewis tîm “i sicrhau’r canlyniad cywir”.

Roedd y dacteg o gyfuno Bony ac Abraham, ac Ayew y tu ôl iddyn nhw, yn llwyddiannus ar y cyfan er iddyn nhw golli’r gêm yn erbyn Watford o 2-1.

“Mae’n opsiwn dw i’n ei ystyried y penwythnos yma,” meddai.

“Gobeithio, gan ein bod ni oddi cartref ac y bydd West Ham eisiau ennill y gêm, y bydd mwy o ofod i wneud y pethau ry’n ni eisiau eu gwneud.

“Mae angen i ni fod yn well wrth fynd ymlaen ac ry’n ni’n gweithio ar hynny, ond mae’n dal yn gynnar yn y tymor.”

Mae Abertawe’n bymthegfed yn y tabl gyda phum pwynt, tra bod West Ham yn ddeunawfed gydag un pwynt yn llai.

Llechen lân

Dywedodd fod llechen lân yn sefyllfa ddelfrydol, ond fod y tîm “yn amddiffyn yn well nag ydyn ni’n ymosod”.

Ychwanegodd: “Mae amddiffyn yn dda yn rhoi llwyfan i chi, ond ry’n ni wedi gwneud nifer o sesiynau’r wythnos hon ar gywiro rhai o’n patrymu ymosodol ni… Dw i’n sicr nad yw’r perfformiadau ymosodol positif yn bell iawn i ffwrdd.”

Stadiwm Llundain

Fe fydd y profiad o chwarae yn Stadiwm Llundain, yr hen stadiwm Olympaidd, yn brofiad cymharol newydd i’r Elyrch.

Mae’r cae yn fwy llydan nag arfer, a’r dorf ymhellach i ffwrdd o’r cae.

Fe allai hynny fod yn broblem i ddau dîm sy’n brin o hyder ac sy’n debygol o edrych tua’r dorf am ychydig o ysbrydoliaeth.

“Mae’n sefyllfa debyg [i’r tymor diwethaf, pan gollodd Abertawe o 1-0] wrth i ni fynd yno.

“Mae’n amlwg dipyn gynt yn y tymor lle mae’r ddau dîm yn awchu i gael triphwynt a gobeithio y bydd y gêm yn well na’r tro diwethaf.”