Mae Rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi mynnu “nad oes unrhyw bwysau” i roddi cap i ddwy seren ifanc gafodd eu geni yn Lloegr, ond sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru.
Mae Ethan Ampadu o Chelsea a David Brooks o Sheffield United yn y garfan ar gyfer y ddwy gêm fawr yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon, wrth i’r Cymry geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018.
Bydd presenoldeb David Brooks ar y cae mewn crys Cymru “yn achosi ychydig o gynnwrf” yn Lloegr, yn ôl Chris Coleman.
“Dyma bluen arall yn het ein sustem,” meddai Chris Coleman wrth y BBC. “Mae’r cysylltiad wedi bod yna erioed. Mae David wedi dangos potensial am flynyddoedd.”
David Brooks
Gwnaeth David Brooks adael carfan dan 20 Cymru dros yr Haf er mwyn chwarae i dîm dan 20 Lloegr yn Nhwrnamaint Toulon.
Er hynny, ymunodd â charfan dan 21 Cymru ym mis Medi, a bellach mae Rheolwr Lloegr, Gareth Southgate, yn credu na fydd yn dychwelyd i Loegr.
Mae Cymru yn chwarae Georgia wythnos i heno.