Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi croesawu’r gwrthdaro ychwanegol ar y cae ymarfer yr wythnos hon ar ôl y golled o 2-1 yn erbyn Watford yn Stadiwm Liberty y penwythnos diwethaf.

Roedd yn siarad ar drothwy’r daith i West Ham ddydd Sadwrn ar ôl rhediad gwael o ganlyniadau ar eu tomen eu hunain y tymor hwn.

Dydy’r Elyrch ddim wedi ennill yr un o’u gemau cartref hyd yn hyn, wrth golli yn erbyn Man U, Newcastle a Watford.

Oddi cartref, maen nhw wedi cael un fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.

‘Rhaid paratoi’

Yn ôl Paul Clement, mae’n bwysig ail-greu sefyllfa gêm wrth ymarfer ac fe fydd hynny, wrth reswm, yn arwain at fwy o wrthdaro ar y cae ymarfer.

“I fi, mae’n bwysig os ydych chi eisiau chwarae’n dda bod rhaid i chi ymarfer fel y’ch chi’n mynd i ymarfer.

“Allwch chi ddim jyst mynd drwy’r mosiwns yn ystod yr wythnos a throi lan ar ddydd Sadwrn a disgwyl curo tîm a chystadlu’n gorfforol a meddyliol heb fod wedi ymarfer.

“I fi, mae’r tensiwn yn bwysig a dw i wedi cael profiad o hynny gyda chlybiau dwi wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol lle mae cryn dipyn o densiwn yn ystod sesiynau ymarfer.”

‘Anghysurus’

Ac yntau wedi bod yn is-hyfforddwr gyda chlybiau mawr yn Ewrop fel Chelsea, Real Madrid a Bayern Munich, mae Paul Clement yn hen gyfarwydd â gweld chwaraewyr yn brwydro’n galed yn erbyn ei gilydd ar y cae ymarfer.

Ychwanegodd: “Dw i’n meddwl mai’r enghraifft orau o hynny oedd pan o’n i gyda Chelsea o 2009 i 2011.

“Roedd yna densiwn bob dydd wrth ymarfer.

“Ro’n i braidd yn anghysurus ar adegau oherwydd roeddech chi’n gwybod pe baech chi’n dyfarnu gêm neu’n rheoli’r sesiynau ymarfer fod yna bosibilrwydd o wrthdaro.

“Roedd pobol gystadleuol yn mynd yn erbyn ei gilydd.”

Amserau anodd

Dywedodd Paul Clement ei fod e’n barod i dderbyn adegau anodd o’r fath pe bai’r perfformiadau ar y cae yn gwella o ganlyniad.

“Byddai’n well o lawer gyda fi bod hynny’n digwydd. Fe wna i dderbyn wythnos anodd ac mae angen ysbryd o gystadleuaeth drwy gydol yr wythnos oherwydd mae’n gwneud pethau’n haws ar y penwythnos.

“Yr hyn dydych chi ddim eisiau yw wythnos hawdd a phenwythnos anodd.

“Fydd pethau byth yn hawdd i ni… ond byddai’n help pe bai gyda ni’r tensiwn cystadleuol yn ystod y sesiynau ymarfer. Mae hynny’n beth da, dw i’n meddwl.”