Crawley 1–2 Casnewydd         
                                                        

Tarodd Casnewydd nôl i guro Crawley yn Stadiwm Broadfield nos Fawrth a chodi i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran.

Roedd yr Alltudion ar ei hôl wedi hanner awr ond sicrhaodd dwy gôl Mickey Demetriou o bobtu’r egwyl bod yr ymwelwyr yn dychwelyd i dde Cymru gyda’r tri phwynt.

Hanner awr a oedd ar y cloc pan beniodd Mark Connolly y tîm cartref ar y blaen o groesiad Enzio Boldewijn.

Roedd Casnewydd yn gyfartal bum munud cyn yr egwyl serch hynny diolch i beniad Demetriou o groesiad Sean Rigg.

A pheniad arall gan Demetriou a enillodd y gêm i’r ymwelwyr bum munud ar ôl troi, o groesiad Robbie Willmott y tro hwn.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Alltudion i’r seithfed safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Crawley

Tîm: Morris, Lelan, Yorwerth, Connolly, Young (Payne 64’), Tajbakhsh (Randall 82’) Boldewijn, Meite (Camara 72’), Roberts

Gôl: Connolly 30’

Cardiau Melyn: Tajbakhsh 78’, Roberts 85’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (Bennett 62’), O’Brien (Butler 45’), Demetriou, White, Willmott, Labadie, Rigg, Tozer, Amond (Dolan 90’), Nouble

Goliau: Demetriou 40’, 51’

Cardiau Melyn: Tozer 79’, Butler 48’, Labadie 51’

.

Torf: 1,445