Mae hi’n gêm bwysig yn stadiwm Nantporth heno (nos Fawrth) gyda’r enillydd yn mynd i frig y tabl. Hon ydi’r gêm sy’n cael ei chwarae ar ôl ei gohirio oherwydd fod y llifoleuadau wedi torri.

Mae’r Dinasyddion (Bangor) wedi penderfynu gadael pawb i mewn am ddim o ran ewyllys da i gefnogwyr y ddau dîm.

Roedd Bangor yn ennill y gêm wreiddiol 1-0 ar ôl gôl gan Lawrence Wilson ar 27 munud, ond cafodd y gêm ei stopio wedi 41 munud.

Mae Bangor yn dod i mewn i’r gêm ar ôl bod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn,  lle’r oedden yn fuddugol o 3-2 mewn chwip o gêm.

Roedd nifer o gefnogwyr a sylwebydd yn cwestiynu dewis tîm Kevin Nicholson ar ôl iddo adael Gary Taylor-Fletcher ar y fainc, ond dod ar y cae wnaeth Taylor-Fletcher i unioni’r sgôr cyn y diweddglo hurt lle sgoriodd Bangor ddwy ac Aber un.

Roedd Cei Connah yn wynebu’r myfyrwyr o Met Caerdydd dydd Sadwrn ac roedden nhw’n fuddugol gyda gôl gan y Cofi, Jay Owen. Roedd y rheolwr Andy Morrison wedi croesawu Nathan Woolfe i’r tîm am ei gêm gyntaf o’r tymor, ac roedd yr amddiffynnwr Ian Kearney yn y garfan ar ôl blwyddyn allan oherwydd anaf.

Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto nos Fawrth nesaf yn Nathaniel ar Lannau Dyfrdwy.