Mae 25,000 o dicedi wedi cael eu gwerthu hyd rŵan i’r gêm rhwng Caerdydd a Leeds heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Leeds ar frig y tabl, gyda thîm Neil Warnock yn drydydd.

Mae’r Adar Gleision  wedi cael dechrau gwych i’r tymor, ond roedd y fuddugoliaeth ddydd Sadwrn yn Sunderland yn bwysig ar ôl tair gêm heb fuddugoliaeth cyn hynny.

“Rydan eisiau rhoi bob cyfle i’n cefnogwyr i fod yn rhan o’r noson arbennig pryd rydan yn wynebu Leeds,” meddai llefarydd ar ran yr Adar Gleision.

“Mae’n dechrau cadarn ni i’r tymor wedi creu’r galw yma, gyda 25,000 o docynnau wedi’u gwerthu. Fe fydd hyn, gobeithio, yn creu awyrgylch arbennig. Fe all y cefnogwyr ein helpu ni.

“Rydyn ni fel clwb yn deall bod ddim yn hawdd galw i’r swyddfa docynnau yn ystod oriau gwaith,”  meddai wedyn, “felly rydyn ni wedi bod ar agor yn hwyr neithiwr (nos Lun) ac yn fuan heddiw (fore Mawrth).”