Fe fydd y Cymro Ryan Giggs yn colli ei record ar gyfer y nifer fwyaf o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr pe bai Gareth Barry yn chwarae dros West Brom yn erbyn Arsenal nos Lun.

Chwaraeodd y Cymro mewn 632 o gemau dros Man U, ei unig glwb, yr un nifer ag y mae Gareth Barry wedi eu chwarae i amryw glybiau yn ystod ei yrfa.

Fe chwaraeodd e mewn 40 o gemau yn yr hen Adran Gyntaf cyn dyfodiad yr Uwch Gynghrair.

Gareth Barry

Ymunodd Gareth Barry â West Brom o Everton dros yr haf.

Aston Villa oedd ei glwb cyntaf ac yntau’n 17 oed yn chwarae yn ei gêm gyntaf.

Chwaraeodd e mewn 365 o gemau cyn mynd i Man City a chwarae 132 o gemau.

Chwaraeodd e mewn 131 o gemau dros Everton ac mae e wedi chwarae bedair gwaith i West Brom.

Futsal

Yn y cyfamser, mae Ryan Giggs wedi troi ei law – neu ei droed – at gêm futsal, math o bêl-droed dan do.

Mae e eisoes wedi creu argraff yn y gynghrair yn India, gan sgorio chwip o gôl dros ei glwb, Mumbai Warriors.