Aberystwyth 2–3 Bangor           
                                                      

Cafwyd ail hanner gwych a diweddglo llawn cyffro wrth wrth i Fangor guro Aberystywth yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, cafwyd pum gôl wedi’r egwyl ar Goedlan y Parc, gan gynnwys tair yn y munudau olaf wrth i’r ymwelwyr o Fangor gipio’r tri phwynt gyda foli hwyr Steven Hewitt.

Bangor a ddechreuodd orau ond daeth Aber yn fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner cyntaf fynd rhagddo a’r tîm cartref a oedd yn edrych yn fywaf tebygol o sgorio cyn yr egwyl.

Declan Walker a ddaeth agosaf iddynt ond adweithiod Connor Roberts yn dda wedi i ergyd y cefnwr cartref wyro oddi ar amddiffynnwr.

Cafwyd llawer mwy o gyffro o flaen gôl yn yr ail hanner gyda Geoff Kellaway yn dod yn agos i Aber a Bryden Shaw i Fangor yn y deg munud cyntaf wedi’r egwyl.

Bu rhaid aros tan toc wedi’r awr am y gôl agoriadol, ond am gôl! Tarodd Luke Borelli foli berffaith o ongl dynn i roi’r tîm cartref ar y blaen o groesiad dwfn Ryan Wollacott.

Ymatebodd Bangor trwy anfon Gary Taylor-Fletcher ar y cae ac roedd yr is reolwr wedi unioni’r sgôr fewn munud, yn rheoli pas gywir Tom Kennedy gyda’i gyffyrddiad cyntaf cyn curo Chris Mullock ar ei bostyn agosaf gyda’i ail.

Tarodd Shaw y postyn wedi hynny a bu rhaid i Roberts fod yn effro i atal Joe Phillips yn y pen arall ond roedd digon o gyffro i ddod yn y munudau olaf.

Diweddglo Dramatig

Rhoddodd Shaw Bangor ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm funud o ddiwedd y naw deg gyda pheniad postyn pellaf o groesiad hir Matthew Wall.

Fe arhosodd hi felly am lai na munud cyn i eilydd Aber, Craig Hobson, rwydo wedi pêl dda Borrelli ar draws ceg y gôl.

Roedd y tîm cartref yn haeddu rhannu’r pwyntiau o leiaf ond nid felly y bu wrth i Hewitt gipio’r tri i Fangor gyda foli wych o du allan i’r cwrt cosbi yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn codi Bangor i’r pedwerydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair tra mae Aberystwyth yn aros ar y gwaelod.

.

Aberystwyth

Tîm: Mullock, Walker, Davies, Spittle, Wollacott, Kellaway (Owen 70’), Borrelli, Wade (Jones 71’), Young, McKenna, Phillips (Hobson 87’)

Goliau: Borrelli 62’, Hobson 90’

Cerdyn Melyn: Borrelli 69’

.                                                                                                                                                                                                      

Bangor

Tîm: Roberts, Holmes, Kennedy, Gosset, Miley, Cayola (Wall 50’), Hewitt, Shaw, Nardiello (Taylor-Fletcher 64’), Rittenberg, Wilson (Allen 87’)

Goliau: Taylor-Fletcher 65’, Shaw 89’, Hewitt 90+3’

.

Torf: 270