Tranmere 0–1 Wrecsam    
                                                              

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth yn erbyn Tranmere yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn er iddynt chwarae mwyafrif y gêm ar Barc Prenton gyda deg dyn.

Roedd un gôl yn ddigon i ennill y gêm ddarbi a Chris Holroyd a gafodd hi i’r Dreigiau toc cyn yr awr.

Bu rhaid i Wrecsam chwarae bron i gêm gyfan gyda deg dyn diolch i Sam Wedgbury a lwyddodd i gasglu dau gerdyn melyn ac un coch yn y tri munud ar ddeg cyntaf.

Wnaeth hynny ddim effeithio’r Dreigiau’n ormodol ac roeddynt ar y blaen gydag ychydig dros hanner awr yn weddill diolch i gôl Holroyd.

Daliodd tîm Dean Keates eu gafael ar y tri phwynt wedi hynny gan ennill y gêm a chodi i’r pumed safle yn y tabl.

.

Tranmere

Tîm: Davies, McNulty, Norburn, Alabi (Waring 84’), Dunn (Cook 62’), Buxton, Jennings, Ridehalgh, Harris, Norwood, Sutton

Cardiau Melyn: Jennings 4’, Cook 70’

.

Wrecsam

Tîm: Coddington, Jennings, Smith, Reid, Wedgbury, Pearson, Holroyd (Carrington 73’), Rutherford, Kelly, Roberts, Wright

Gôl: Holroyd 58’

Cardiau Melyn: Wedgbury 11’, 13’, Rutherford 86’

Cerdyn Coch: Wedgbury 13’

.

Torf: 1,835