Casnewydd 1–0 Grimsby      
                                                           

Roedd un gôl yn ddigon wrth i Gasnewydd guro Grimsby ar Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Di sgôr a oedd hi ar hanner amser cyn i Padraig Amond sgorio unig gôl y gêm toc wedi’r awr.

Casnewydd heb os a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf er gwaethaf y diffyg goliau, daeth Amond a Josh Labadie yn agos i’r tîm cartref.

Aeth yr Alltudion yn haeddiannol ar y blaen yn yr ail hanner pan rwydodd Amond wedi gwaith creu Frank Nouble.

Cafodd Diallang Jaiyesimi gyfle i unioni pethau i Grimsby wedi hynny ond cadwodd Joe Day lechen Casnewydd yn lân wrth iddynt ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r wythfed safle yn nhabl yr ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, O’Brien (Butler 83’), Demetriou, White, Willmott, Labadie (Bennett 79’), Rigg, Tozer, Amond (McCoulsky 89’), Nouble

Gôl: Amond 63’

.

Grimsby

Tîm: McKeown, Davies, Clarke, Collins, Dixon, Dembele (Jaiyesimi 71’), Rose (Summerfield 45’), Berrett, Woolford (Hooper 75’), Matt, Jones

Cerdyn Melyn: Clarke 69’

.

Torf: 3,356