Mark Sampson, rheolwr pel-droed merched Lloegr (Llun: James Boyes/CC2.0)
Mae adroddiadau’n awgrymu bod y Cymro, Mark Sampson, ar fin ymddiswyddo o fod yn rheolwr tîm pêl-droed merched Lloegr.

Mae’r rheolwr 34 oed yng nghanol sawl ffrae ar hyn o bryd ar ôl iddo gael ei gyhuddo o hiliaeth, bwlio a gwahaniaethu ar sail rhyw.

Daw’r newyddion drannoeth buddugoliaeth fawr Lloegr o 6-0 dros Rwsia mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd.

Dyw hi ddim yn glir eto os yw’r penderfyniad yn ymwneud â’r honiadau yn ei erbyn, ond mae disgwyl cadarnhad o’i ymadawiad cyn diwedd y dydd.

Cyhuddiadau

Ar ôl sgorio gôl neithiwr, rhedodd y chwaraewyr at Mark Sampson i ddathlu gyda fe ar ymyl y cae.

Ond mae Eni Aluko, sydd wedi gwneud nifer o honiadau am y rheolwr, wedi cyhuddo’i chyd-chwaraewyr o ddangos diffyg parch ati.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cynnal arolwg i ymddygiad Mark Sampson ac wedi ei gael yn ddieuog ddwywaith. Ond mae grwpiau gwrth-hiliaeth wedi bod yn rhoi pwysau arnyn nhw i weithredu.

Cafodd Mark Sampson ei benodi yn 2013.