Gareth Bale yn dathlu buddugoliaeth Real Madrid yn erbyn Juventus (Llun: Nick Potts/PA Wire)
Gareth Bale yw’r unig Gymro ar restr fer Tîm y Flwyddyn FIFA, ac mae’n un o ddau chwaraewr yn unig o wledydd Prydain ar y rhestr fer o 55.

Caiff y tîm ei ddewis ar sail pleidleisiau 25,000 o bêl-droedwyr o 75 o wledydd.

Enillodd Gareth Bale a’i dîm, Real Madrid Gynghrair y Pencampwyr a chynghrair La Liga.

Mae 12 o chwaraewyr o Uwch Gynghrair Lloegr ar y rhestr.

Bydd y tîm terfynol o 11 yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar Hydref 23.