Jess Fishlock yn dathlu sgorio ar ol i Dîm pêl-droed Merched Cymru guro Kazakstan yn Astana (Llun: CBDC Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Roedd Cymru yn dechrau eu hymgyrch  Cwpan y Byd Grŵp 1 ac mae’r canlyniad yn  rhoi tîm Jayne Ludlow ar frig y grŵp ac ymestyn eu rhediad o un golled yn y saith gêm ragbrofol ddiwethaf.

Gôl  yn yr ail hanner gan Jess Fishlock wnaeth sicrhau’r tri phwynt yn yr Astana Arena.

Mi gafodd Cymru eu rhwystro am gyfnodau hir yn erbyn tîm ystyfnig Kazakstan wnaeth gyrraedd y grŵp ar ôl dod drwy rowndiau  cymhwyster rhagarweiniol .

Gwnaeth y ddau dîm gwrdd yn rowndiau rhagbrofol  Euro 2017 gyda Chymru yn ennill y ddwy gêm 4-0 ond roedd yn wahanol stori y tro hyn yn Astana.

Ar ôl ergyd wych gan Fishlock, roedd Ludlow yn amlwg yn falch i ddechrau’r ymgyrch gyda buddugoliaeth cyn y daith i Rwsia fis nesaf.

“Y cynllun oedd cael tri phwynt, ac rwy’n ddiolchgar iawn bod ni’n mynd adref gyda nhw,” meddai.

“Roedd yn dipyn bach yn wahanol i be oeddan ni’n disgwyl achos roedd Kazakstan wedi strwythuro eu tîm yn wahanol i’r tro diwethaf.

“Roedden nhw’n anodd torri lawr, ond mae hynna’n rhywbeth i ni ddysgu a gweithio arno at y gêm nesaf.

“Cafodd eu gôl-geidwad gêm dda ond diolch i Jess (Fishlock) wnaeth fanteisio ar ei chyfle, ac yr ystadegyn pwysicaf yw’r canlyniad,” meddai  Jayne Ludlow.

Roedd Cymru heb Helen Ward, sydd â record sgorio merched Cymru, ar ôl genedigaeth ei phlentyn.