Tydi Tottenham erioed wedi colli yn erbyn yr Elyrch yn yr Uwch gynghrair – mewn deuddeg gêm hydf yma cafwyd dim ond dwy gêm gyfartal.

Felly, er pryderon Spurs am eu fform yn eu cartref dros dro yn Wembley – maen nhw eto i ennill yr un gêm gynghrair yno – Abertawe sy’n amlwg yn wynebu’r talcen caletaf.

Ac wedi’r golled wythnos ddiwethaf yn erbyn Newcastle o 1-0 ar y Liberty, bydd y rheolwr Paul Clement yn disgwyl llawer mwy gan ei dîm yfory.

Bydd rhaid i’r Elyrch wneud heb Ki Sung-yueng, Kyle Bartley a Nathan Dyer unwaith eto wythnos yma.

Er nad yw Harry Kane wedi sgorio i Spurs yn y gynghrair yn Wembley y tymor yma mae o eisoes wedi darganfod y rhwyd 23 o weithiau mewn 21 o gemau cynghrair yn 2017.

Dim ond Lionel Messi ac Edinson Cavani sydd yn fwy cyson na Kane ymysg  pum prif Gynghrair Ewrop.