Neil Warnock (Llun: Wikipedia)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock yn gandryll ar ôl gweld ei dîm yn colli eu record ddi-guro yn y Bencampwriaeth wrth golli o 3-0 yn erbyn Preston neithiwr (nos Fawrth).

Aeth y Saeson ar y blaen yn yr hanner cyntaf drwy gic rydd gan Josh Harrop, cyn i Sean Maguire ac Alan Browne rwydo yn yr ail hanner. 

Ond mae Neil Warnock wedi cyhuddo’i chwaraewyr o fethu â chystadlu am gyfnodau helaeth o’r gêm.

“Does dim esgus,” meddai, “oherwydd roedd y goliau’n ofnadw, on’d oedden nhw?

“Doedd wyth neu naw [o’r chwaraewyr] ddim yn y gêm heddiw a doedd yr holl deithio ry’n ni wedi’i wneud ers dydd Sadwrn ddim wedi helpu.

“Alla i ddim ond dweud nad ydw i’n gwneud esgusodion. Ond dw i’n tybio ein bod ni wedi teithio mwy nag unrhyw dîm arall yn y wlad; daethon ni’n ôl o Fulham am 10.30pm.”

Record ddi-guro

Dywedodd Neil Warnock y byddai wedi ystyried gwneud newidiadau i’w dîm pe na baen nhw’n ddi-guro.

Ond mae’n cydnabod y byddai wedi cael ei feirniadu am wneud newidiadau pe bai’r tîm wedi colli wedyn. 

“Dw i’n syrthio ar fy mai rywfaint – ro’n i’n meddwl y dylen i fod wedi gwneud dau neu dri [newid] wrth edrych ar y chwaraewyr oherwydd roedden nhw’n edrych yn flinedig.

“Mae’r gallu i edrych yn ôl yn beth gwych ond byddech chi’n ddyn dewr tasech chi’n newid tîm sydd heb golli gêm.”