Mae tîm pêl-droed Abertawe’n gryfach heb Gylfi Sigurdsson a Fernando Llorente, meddai’r prif hyfforddwr Paul Clement.

Fe fydd yr Elyrch yn herio Newcastle yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma (4 o’r gloch), wrth i Wilfried Bony ddychwelyd, ac mae disgwyl i seren ifanc Portiwgal, Renato Sanches ymddangos yng nghrys yr Elyrch am y tro cyntaf.

Mae’r ddau ymhlith saith wyneb newydd yn y garfan a ddaeth i mewn yn ystod y ffenest drosglwyddo, wrth i ddeg chwaraewr adael.

Roedd Gylfi Sigurdsson, yr ymosodwr o Wlad yr Iâ yn eu plith, ac yntau wedi sgorio neu wedi cyfrannu at 53% o goliau’r Elyrch y tymor diwethaf.

Roedd y Sbaenwr Fernando Llorente wedi sgorio 15 gôl y tymor diwethaf.

Ond mae Paul Clement yn mynnu ei fod yn “hapus iawn” gyda’r garfan.

“Yn amlwg, ry’ch chi’n siomedig wrth golli nifer o chwaraewyr allweddol, ac fe adawodd tri chwaraewr da iawn y clwb – Sigurdsson, Llorente a [Jack] Cork.

“Alla i ddim dweud celwydd a dweud nad ydyn ni wedi colli chwaraewyr da. Ry’n ni wedi’u colli nhw.

“Ond mae’r chwaraewyr sydd wedi dod i mewn yn dda iawn a dw i’n hapus gyda maint y garfan.”

Dywedodd y byddai’n “mynd am y garfan hon nawr – 100%”.

Tymor siomedig ar y gorwel?

Yn dilyn ymadawiadau Gylfi Sigurdsson a Fernando Llorente, roedd nifer yn darogan tymor anodd a siomedig unwaith eto i’r Elyrch.

Ond fe allai Renato Sanches a Wilfried Bony leddfu’r ofnau – am y tro, o leiaf.

Ychwanegodd Paul Clement: “Mae’n well cael chwaraewyr sydd yn barod ac sydd eisiau chwarae dros y clwb.

“Nid yn unig ry’n ni wedi denu chwaraewr o safon uchel, ond fe ddaethon ni â chwaraewyr i mewn sy’n barod a dw i’n credu y gallwn ni fod yn well dîm.”

Renato Sanches

Cafodd Renato Sanches dymor anodd gyda Bayern Munich ar ôl symud o Benfica am 35 miliwn Ewro.

Cafodd ei enwi’n chwaraewr ifanc gorau Ewro 2016 wrth i Bortiwgal guro Cymru cyn mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Ond ac yntau wedi chwarae mewn 26 gêm yn unig dros ei glwb y tymor diwethaf, roedd yr Almaenwyr yn awyddus i roi profiad iddo yn rhywle arall – a Paul Clement, fel is-hyfforddwr blaenorol y clwb, wedi rhoi’r cyfle hwnnw iddo fe.

“Dw i’n credu y bydd rhaid i ni fod yn amyneddgar gyda fe i raddau,” meddai Paul Clement, “o ystyried yr hyn oedd wedi digwydd y tymor diwethaf.

“Ond mae e’n awchu i wneud yn dda fel y bydd e’n gallu perfformio ar lefel dipyn uwch y tymor nesaf yn Ewrop.

“Fe fydd e eisiau ennill ei le yn ôl yn nhîm Portiwgal hefyd.”