Mae un arall o chwaraewyr tîm pêl-droed merched Lloegr wedi cyhuddo’r rheolwr Mark Sampson o wahaniaethu yn ei herbyn ar sail ei rhyw.

Yn ôl Katie Chapman, capten tîm Chelsea, dydy hi ddim wedi cael ei dewis i gynrychioli ei gwlad ers iddi gyhoeddi ei bod hi’n cael ysgariad, ac y bydd angen iddi wneud trefniadau gofal plant.

Mae’r rheolwr, sy’n hanu o Gymru, eisoes wedi cael ei gyhuddo o fwlio, gwahaniaethu ar sail rhyw a bod yn hiliol.

Ond fe gafwyd e’n ddieuog o’r honiadau ei fod e wedi ymddwyn yn hiliol tuag at Eni Aluko, ymosodwraig Lloegr sy’n hanu o Nigeria, ar ôl iddo wneud sylwadau amheus am Ebola ar ôl iddi ddweud wrtho bod ei theulu’n dod i Loegr.

Mae Mark Sampson wedi gwadu’r holl honiadau.

Rhagor o feirniadaeth

Mae Katie Chapman, sy’n chwaraewraig canol cae, yn fam i dri o fechgyn rhwng pedair a 14 oed, ond dydy hi ddim wedi cynrychioli ei gwlad ers mis Ebrill y llynedd.

Dywedodd hi fod Mark Sampson wedi bod yn “gefnogol” adeg y cyhoeddiad am ei hysgariad, ond nad yw hi wedi cael ei dewis ers hynny.

“Ni ddylai achosi problem,” meddai, “ond dw i’n credu o bosib ei fod yn rhan o’r rheswm.”

Dywedodd nad yw hi wedi ymddeol o’r byd pêl-droed rhyngwladol, a’i bod hi’n gobeithio cyrraedd y garreg filltir o 100 o gapiau.

Ychwanegodd ei bod hi’n canolbwyntio bellach ar ei gyrfa gyda Chelsea, gan egluro nad yw hi wedi gofyn i Mark Sampson pam nad yw hi’n cael ei dewis.

“Mae’n bosib y bydd e’n dweud rhywbeth cwbl wahanol. Tan i fi gael y sgwrs honno gyda fe, alla i ddim dweud unrhyw beth gan nad ydw i’n gwybod yr ateb a byddai’n amhriodol i fi ragdybio rhywbeth.”