Kyle Bartley (Llun o wefan Clwb Pel-droed Abertawe)
Fe fydd amddiffynnwr canol Abertawe, Kyle Bartley allan am dri mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Cafodd ei anafu yn ystod y gêm gwpan yn erbyn yr MK Dons ar Awst 22, ac fe adawodd y cae ar wastad ei gefn.

Roedd disgwyl y byddai allan am chwech i wyth wythnos, ond fe ddaeth i’r amlwg fod yr anaf yn waeth nag yr oedd meddygon yn credu ar y dechrau.

Dywedodd y prif hyfforddwr Paul Clement ei fod yn “siomedig” o golli’r chwaraewr sydd yn brwydro am le yn y tîm cyntaf ar ôl dychwelyd o gyfnod ar fenthyg yn Leeds.

“Amcangyfrif yw’r cyfnod o 12 mis,” meddai, “a bydd rhaid i ni weld sut mae Kyle yn ymateb i’w gyfnod o adferiad.”