Ben Davies (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Rhaid i dîm pêl droed Cymru “ennill pob un gêm” o hyn ymlaen, yn ôl yr amddiffynwr, Ben Davies.

Yn dilyn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Moldofa nos Fawrth – a gan fod Gweriniaeth Iwerddon wedi colli eu gêm yn erbyn Serbia yn Nulyn hefyd – mae Cymru bellach yn ail safle grŵp D.

Er hynny, mae Ben Davies yn nodi nad oes modd i’r garfan fod yn hunan fodlon a dibynnu ar fuddugoliaethau timau eraill o hyn ymlaen. 

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Georgia nesaf yn Tbilsi ar Hydref 6, ac yn croesawu’r Gwyddelod i Gaerdydd dridiau wedi hynny. 

“Yn ein dwylo ni”

“Does dim llawer wedi newid i ni, roeddwn yn teimlo bod angen pedwar buddugoliaeth ac rydyn ni ond wedi cyflawni hanner hynna,” meddai Ben Davies.

“Rydym ni ond yn medru rheoli pethau trwy ennill pob un gêm. Mae popeth yn dibynnu ar y ddwy gêm olaf yn awr.

“Mae Serbia wedi bod yn derbyn canlyniadau da, ond os fyddwn ni’n ennill ein gemau bydd popeth yn ein dwylo ni.”