Ben Woodburn (Llun Clwb Lerpwl)
Moldofa 0 Cymru 2

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia yn fyw o hyd, diolch unwaith eto i’r hogyn 17 oed Ben Woodburn.

Fflach o gyflymder a gallu ganddo ef a drodd gêm yr oedd Cymru mewn peryg o’i gadael i lithro trwy’u gafael.

Ar ôl 79 munud, fe gododd yr eilydd y bêl tua’r hanner a’i gwthio allan i’r chwith, defyddio cyflymder twyllodrus i guro dau amddiffynnydd a chroesi heb oedi cam… roedd Hal Robson-Kanu yno i hanner plymio a gwyro’r bêl efo’i ben i’r gornel.

Y gobaith yn fyw

Fe gafodd Cymru ail gôl trwy Aaron Ramsey ddau funud i mewn i amser ychwanegol ac roedd hynny’n fendith wrth i Moldofa ddod yn agos at sgorio ddwywaith. Ond unwaith eto Ben Woodburn oedd yr arwr.

Gyda Gweriniaeth Iwerddon yn colli 0-1 i Serbia, mae Cymru bellach yn ail a’r gobaith mwya’ yw curo’r Gwyddelod a mynd i mewn i’r gêmau ail gyfle.

Mae’n annhebygol iawn bellach y gallwn nhw oddiweddyd Serbia i orffen ar frig y grŵp ac, oherwydd mathemateg y gystadleuaeth, mae angen ennill y ddwy gêm nesa’.

Stori’r gêm

Fe ddechreuodd Cymru hen Sam Vokes yn y blaen ac roedd hi’n amlwg eu bod am geisio pasio’r bêl hyd y llawr a manteisio ar y ffaith fod Joe Allen yn ôl i gysylltu’n llyfn yn y canol.

Ond doedd y pasio ddim digon cywir ac, er eu bod yn rheoli’r meddiant yn llwyr, doedd yna fawr o fygythiad.

Roedd hi’n amlwg ar ôl ychydig fod y gêm am droi – neu beidio – ar funud o wefr ac eiliad o sgil eithriadol.

Fe ddaeth un cyfle da pan ergydiodd Gareth Bale o bell a golwr Moldofa’n ei tharo at draed Aaron Ramsey; fe fethodd ef â’i chodi hi dros y golwr ac fe ddaeth amddiffynnydd i rwystro ail gynnig gan Hal Robson-Kanu.

Yr ail hanner

Yn yr ail hanner, nerfusrwydd y goli oedd gobaith mwya’ Cymru; roedd yna ambell hanner-cyfle ond dim pwysau di-ildio.

Hal Robson-Kanu a gafodd y cynnig gorau, yn troi’n lledrithiol cyn taro droedfedd heibio i’r postyn de.

Gyda’r rheolwr, Chris Coleman yn edrych ar ei watsh, fe ddaeth Woodburn i’r maes ar yr awr a gwneud argraff ar unwaith gyda chroesiad deheuig.

Fe fu’n rhaid i Moldofa glirio oddi ar y llinell dan bwysau Bale ac fe gafodd Woodburn ei faglu yn y bocs wrth i Gymru gynyddu’r pwysau ond doedd gôl ddim yn sicr o ddod.

Ac, wedyn, fe redodd Woodburn.

Ac eto, doedd hi ddim yn saff

Fe allai Modlofa fod wedi sgorio ar ôl munud a hanner o amser ychwanegol ond, ar ôl gêm segur, fe lwyddodd Wayne Hennessey i daro ergyd oedd yn bownsio o’i flaen o amgylch y postyn.

Hyd yn oed ar ôl i Aaron Ramsey sgorio, fe drawodd Moldofa y tu fewn i’r postyn ond, erbyn hynny, roedd Cymru’n saff.

Roedd Allen wedi agor yr amddiffyn gwpl o weithiau ond, efo Ramsey a Bale yn edrych yn ddihyder yn eu hymdrechion, roedd angen i’r chwaraewyr ieuenga’ ar y cae ddod i’r adwy.