Ben Woodburn
Mae carfan Cymru wrthi’n paratoi at herio Moldofa oddi cartref yn stadiwm Zimbru, Chisinau nos Fawrth, Medi 5, am 7.45yh.

Dyma’r cam nesaf yn eu hymgyrch at gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia a hynny wedi iddyn nhw selio buddugoliaeth yn erbyn Awstria nos Sadwrn.

Mae disgwyl y bydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, a’r amddiffynnwr Neil Taylor yn eu hôl ar gyfer y gêm a hynny wedi iddyn nhw gael eu gwahardd o chwarae yn erbyn Awstria nos Sadwrn.

Y disgwyl yw y byddan nhw’n cymryd lle Jonny Williams a James Collins.

Un o’r sêr wnaeth osod ei farc yn rhyngwladol nos Sadwrn oedd Ben Woodburn, y chwaraewr 17 oed, wnaeth sgorio unig gôl y gêm gan sicrhau buddugoliaeth o 1 – 0 i Gymru.