Mae Ben Woodburn, yr ail chwaraewr ieuengaf i sgorio gôl dros dîm pêl-droed Cymru, wedi dweud ei fod e “wedi gwireddu breuddwyd” neithiwr.

Daeth y chwaraewr 17 oed oddi ar y fainc i sgorio unig gôl y gêm yn erbyn Awstria i gadw gobeithion ei dîm o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia yn fyw.

Roedd chwaraewr canol cae Lerpwl ar y cae lai na phum munud cyn yr ergyd fawr sy’n sicrhau mai dau bwynt yn unig bellach sydd rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yn y tabl.

Dim ond chwech o chwaraewyr o dan 18 oed sydd wedi sgorio gôl dros Gymru.

Dywedodd Ben Woodburn: “Fe wnes i wireddu breuddwyd.

“Dywedodd y rheolwr wrtha i cyn i fi fynd ymlaen am fwynhau fy hun a helpu’r tîm gymaint allwn i, a gobeithio ’mod i wedi gwneud hynny.

“Dyna oedd yn rhedeg drwy fy meddwl wrth i fi ddod ymlaen.

“Daeth y bêl o’r awyr ac mi dynnais i hi lawr a thrio’i chael hi wrth fy nhraed mor gyflym ag y gallwn i ac yn ffodus, dyna pryd y gwnes i ei tharo hi ac mi aeth i mewn.”

‘Profiad da’

Dywedodd Ben Woodburn fod cynrychioli ei wlad neithiwr yn “brofiad da”.

“Mae’r rheolwr a’r chwaraewyr wedi bod yn wych efo fi, maen nhw wedi fy nhrin i fel un ohonyn nhw, ac fe fu’n hawdd cymysgu efo pawb.”