Twr Grenfell yn llosgi (Llun: Natalie Oxford CCA 4)
Mae timau o fyd y selebs a phêl-droed wedi mynd ben-ben er mwyn codi arian i’r bobol hynny gafodd eu heffeithio gan y tân yn Nhwr Grenfell yn Llundain.

Mae’r gêm ‘Game4Grenfell’ yn cael ei chynnal brynhawn Sadwrn yn stadiwm Loftus Road, cartref clwb Quuen’s Park Rangers, gerbron torf o 20,000 o bobol.

Mae’r gynulleidfa wedi bod yn bloeddio wrth i fos Manchester United, Jose Mourinho, wneud ymddangosiad; ynghyd â’r canwr Olly Murs a chyn-golgeidwad Lloegr, David Seaman.

Mae pob ceiniog o werthiant tocynnau yn mynd i gronfa papur newydd yr Evening Standard ar gyfer y rheiny gafodd eu heffeithio gan y tân a laddodd beth bynnag 80 o bobol ym mis Mehefin.

Capteiniaid y timau heddiw ydi Alan Shearer a Les Ferdinand.