Chris Coleman (Llun: PA)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, yn hyderus y gall Cymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd y n Rwsia y flwyddyn nesaf.

Er nad yw Cymru wedi colli dim un gêm yn yr ymgyrch hyd yn hyn, mae Cymru’n gyfartal ag Awstria yn y 3ydd a’r 4ydd safle yng nghrŵp D gyda Serbia a Gweriniaeth Iwerddon ar y blaen iddynt o 4 pwynt.

Er mwyn cyrraedd brig y grŵp a’r ffeinal felly, mae’n rhaid i Gymru gael oleiaf y cyfanswm posib o bwyntiau ym mhob un o’r pedwar gêm sy’n weddill.

Ond wrth edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno, dywedodd rheolwr tîm Cymru ei fod yn credu y gall Cymru gyflanwi’r dasg hon a bod ganddo “gymaint o hyder” yn y chwaraewyr fel nad yw’n ofni herio Brasil, Sbaen a’r Almaen yn y ffeinal y flwyddyn nesaf hyd yn oed.

“Os gallwn ni neud pethau’n iawn, does dim angen i ni ofni neb”, meddai.

Gareth Bale yn dychwelyd

Ni fydd Joe Allen na Neil Taylor yn chwarae heno oherwydd gwaharddiad, ond fe fydd Gareth Bale yn ei ôl wedi iddo fethu’r gêm yn erbyn Serbia ym mis Mehefin.

Bydd Aaron Ramsay yn chwarae heno hefyd, er gwaethaf ofnau’r wythnos ddiwethaf nad oedd yn ddigon iach ar ôl iddo dderbyn anaf wrth chwarae i Arsenal dros y penwythnos.

Bydd y gêm yn cychwyn am gwarter i wyth gydag uchafbwyntiau yn cael eu darlledu’n ddiweddarach ar S4C.