Fernando Llorente
Mae adroddiadau’r wasg yn Sbaen yn awgrymu bod Chelsea yn awyddus i arwyddo ymosodwr Abertawe, Fernando Llorente cyn diwedd y ffenest drosglwyddo.

Mae’r ffenest yn cau nos fory am 11 o’r gloch, ac mae’r trosglwyddiad yn ddibynnol ar symudiadau Wilfried Bony, sy’n gobeithio dychwelyd i Gymru o Manchester City.

Pe bai’r Elyrch yn arwyddo’r ymosodwr o’r Côte d’Ivoire, yna mae lle i gredu y gallen nhw werthu’r Sbaenwr Fernando Llorente am hyd at £15 miliwn.

Derbyniodd yr Elyrch oddeutu £45 miliwn yn ddiweddar am Gylfi Sigurdsson, ac maen nhw eisoes wedi gwario’n sylweddol ar Sam Clucas o Hull, ac wedi arwyddo Tammy Abraham ar fenthyg o Chelsea.

Ond fe fyddai denu ymosodwr o safon Wilfried Bony i lenwi’r bwlch ym mlaen y cae yn hwb i’r clwb oedd wedi ei chael hi’n anodd aros yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Ceisiodd Chelsea arwyddo Fernando Llorente yn ystod y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr, wrth i’r rheolwr Antonio Conte ddatgan ei awydd i gydweithio unwaith eto â’r ymosodwr oedd yn un o sêr ei dîm yn Juventus.

Fernando Llorente oedd prif sgoriwr Abertawe gyda 15 gôl y tymor diwethaf, a hynny ar ôl symud o Sevilla am £5 miliwn.

Mae Everton ymhlith y clybiau sydd wedi dangos diddordeb ynddo fe yn y gorffennol.