Aaron Ramsey
Doedd chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey, ddim yn rhan o sesiwn ymarfer Cymru heddiw, ond mae’r garfan wedi awgrymu y bydd ar gael erbyn y gêm nos Sadwrn.

Fe fydd Cymru yn herio Awstria yng Nghaerdydd ar y penwythnos fel rhan o gemau cymhwyso Cwpan y Byd.

Yn ôl adroddiadau, penderfyniad i gymryd gofal oedd i Aaron Ramsey beidio â chymryd rhan yn yr ymarfer heddiw.

Bu’n rhaid i Aaron Ramsey, 26 oed, adael y cae hanner amser ddydd Sul yn y gêm rhwng Arsenal a Lerpwl oherwydd anaf i’w goes.

Yn y cyfamser mae Joe Allen wedi’i atal rhag chwarae yng ngêm Awstria; Emyr Huws yn dioddef o wäellen ffêr a Joe Ledley heb chwarae gêm clwb ers bron i saith mis ar ôl gadael Crystal Palace ym mis Mehefin.

Mae Cymru’n parhau heb eu curo yn eu grŵp ar gyfer Cwpan y Byd ar ôl gêm gyfartal 1 – 1 Serbia ym mis Mehefin, ac fe fyddan nhw’n herio Awstria a Gweriniaeth Iwerddon gartref, a Moldofa a Georgia oddi cartref.