Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Gyda’r penwythnos drosodd a phawb bron yn holliach bydd rheolwr Cymru Chris Coleman a’r garfan yn paratoi nawr am y ddwy gêm bwysig yn erbyn Awstria a Moldofa yn rowndiau rhagbrofol cwpan y byd 2018.

Mae pryder am ffitrwydd Aaron Ramsey ar ôl colled ei dim Arsenal yn erbyn Lerpwl o 4-0 dydd Sul, mae sefyllfa ei anaf yn mynd i gael ei gadarnhau gan dîm meddygon Cymdeithas pêl droed Cymru.

Mae Joe Allen a Neil Taylor yn methu gêm Awstria oherwydd gwaharddiadau, ond byddan nhw ar gael am y gêm yn Chisinau ddydd Mawrth nesaf yn erbyn Moldofa. Mae nifer o chwaraewyr ar gardiau melyn yn cynnwys Ben Davies, Joe Ledley, Ashley Williams a Jazz Richards. Pe bai nhw’n cael cerdyn dydd Sadwrn yn erbyn Awstria byddan nhw’n methu’r gêm yn Chisinau.

Mae hefyd pryder am ddiffyg ffitrwydd Joe Ledley sydd ar hyn o bryd heb glwb fell dyw e ddim wedi chwarae eto’r tymor hwn.

Newidiadau o’r garfan ddiwethaf yn erbyn Serbia yw:

Allan

Owain Fôn Williams (Inverness)
Declan John (Caerdydd)
Joe Walsh (MK Dons)
Gethin Jones (Everton)
Emyr Huws (Ipswich) anaf
Tom Bradshaw (Barnsley).
Harry Wilson (Lerpwl) –

I mewn
Adam Davies (Barnsley)
James Collins (West Ham United)
Neil Taylor (Aston Villa)
Andy King (Caerlyr)
Jonathan Williams (Crystal Palace).
Gareth Bale (Real Madrid).