Enillodd Wrecsam oddi cartref ddydd Llun (28 Awst) o gôl i ddim yn erbyn Boreham Wood gyda  Alex Reid, sydd ar fenthyg o Fleetwood, yn rhwydo ar ôl 61 munud; dyma drydedd gôl Reid mewn pedwar ymddangosiad.

Roedd  y chwaraewr canol cae, Leo Smith,  yn dechrau ei gem gyntaf o’r tymor.

“Roedd yn dda i gael dechrau gem o’r diwedd. Mae wedi bod yn rhwystredig yn eistedd ar y  fainc,” meddai wrth Golwg360.

“Dywedodd y  rheolwr ( Dean Keates) cyn y gêm i ni gario mlaen o ddydd Sadwrn a chwarae i’n gilydd. Cefais gerdyn melyn yn gynnar yn y gêm, braidd yn annheg dwi’n meddwl, ond roeddwn i isio creu argraff.

Cefnogwyr

“Dyma’r tro cyntaf ers mis Mawrth i ni ennill dwy gêm yn olynol. Dywedodd Keates ar ôl y gêm i ni geisio ennill eto dydd Sadwrn i wneud yn dri a pharhau â’r rhediad. Roedd hefyd wedi pwysleisio i ni cyn y gêm bod y cefnogwyr wedi teithio gyda bysys a cheir oherwydd doedd ddim trenau ar gael. Roedd yn wych i weld dros 300 yna, a’u hanfon nhw adref yn hapus,” meddai

Y nesaf i Wrecsam ydyw Bromley dydd Sadwrn sydd yn yr wythfed safle.