Roedd buddugoliaethau i dimau pêl-droed Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam heddiw.

Casnewydd gafodd y fuddugoliaeth fwyaf – o bedair gôl i un dros Chesterfield – yn eu gêm gyntaf ar gae newydd Rodney Parade yn yr Ail Adran.

Roedd hat-tric yn y gêm honno i Frank Nouble – ei holl goliau’n cael eu sgorio mewn 13 o funudau yn yr ail hanner. Roedd gôl hefyd i Padraig Amond ar ôl i Chesterfield fynd ar y blaen drwy Chris O’Grady wyth munud cyn yr egwyl.

Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw bellach yn ail yn yr Ail Adran.

Wrecsam

Roedd gôl yr amddiffynnwr James Jennings ar y Cae Ras yn ddigon i roi buddugoliaeth o 1-0 i Wrecsam dros Woking.

Maen nhw wedi codi i unfed ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

Abertawe

Enillodd Abertawe o 2-o yn erbyn Crystal Palace yn yr Uwch Gynghrair, wrth i Tammy Abraham rwydo dros ei glwb newydd am y tro cyntaf yn y gynghrair.

Jordan Ayew sgoriodd yr ail gôl yn gynnar yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Paul Clement ym Mharc Selhurst, yr union gae lle gymerodd e’r awenau am y tro cyntaf ym mis Ionawr.

Mae’r Elyrch bellach yn nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair ar ôl sgorio’u goliau cyntaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Caerdydd

Ac mae tymor di-guro Caerdydd yn parhau ar ôl buddugoliaeth o 2-1 dros QPR yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Junior Hoilett sgoriodd y gôl gyntaf ar ôl 21 munud, ac fe ddyblon nhw eu mantais yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wrth i Sol Bamba ddarganfod y rhwyd.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf erioed y rheolwr Neil Warnock dros ei hen glwb.

Mae Caerdydd ar frig tabl y Bencampwriaeth, dri phwynt ar y blaen i Ipswich, ac maen nhw wedi sicrhau pum buddugoliaeth allan o bump hyd yma.