Fe fydd Paul Clement yn dychwelyd i leoliad ei gêm gyntaf fel prif hyfforddwr ar dîm pêl-droed Abertawe heddiw, wrth i’r Elyrch herio Crystal Palace yn yr Uwch Gynghrair ym Mharc Selhurst.

Ac mae’n cyfaddef fod y gêm honno, pan ddaeth i lawr o’r eisteddle i gynorthwyo’r rheolwr dros dro, Alan Curtis yn “teimlo fel oes yn ôl”.

Cafodd y Sais ei benodi yn ystod prynhawn Ionawr 3 yn dilyn diswyddo’r rheolwr blaenorol, yr Americanwr Bob Bradley, a’r tîm ar waelod y tabl.

Ar ôl dweud y byddai’n aros yn yr eisteddle, fe gyfaddefodd yr wythnos hon ei fod yn rhy awyddus i dorchi llewys a chael dechrau ar y gwaith, a’i fod yn ysu am fod ar yr ystlys.

Ond mae’n digon parod hefyd i gydnabod mai Alan Curtis oedd yn gyfrifol am y fuddugoliaeth o 2-1 y noson honno.

“Roedd yn gêm bwysig ac yn ganlyniad positif, ond mae’n teimlo fel oes yn ôl

“Mae’n sefyllfa wahanol, mae’r cyd-destun yn wahanol, ond mae’n gêm bwysig i ni unwaith eto.”

Ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn Southampton ar ddiwrnod cynta’r tymor, collodd yr Elyrch o 4-0 yn eu gêm gyntaf yn Stadiwm Liberty yr wythnos ddiwethaf.

Ar ôl y gêm heddiw, bydd y chwaraewyr yn cael toriad ar gyfer gemau rhyngwladol, ac fe allai hynny fod o les i Abertawe, yn ôl Paul Clement.

“Ry’ch chi eisiau cael canlyniad positif ar drothwy toriad rhyngwladol.

“Dy’ch chi ddim eisiau treulio pythefnos yn aros i chwarae eto ar ôl canlyniad gwael.”

Goliau

Dydy’r Elyrch ddim wedi sgorio yn yr Uwch Gynghrair eto y tymor hwn, ar ôl colli Gylfi Sigurdsson i Everton am £45 miliwn, ac mae’r Sbaenwr Fernando Llorente allan o hyd ar ôl torri ei fraich cyn dechrau’r tymor.

Tammy Abraham a Jordan Ayew sydd wedi bod yn llenwi’r bylchau ym mlaen y cae, ond mae prinder cyfleoedd i sgorio’n broblem o hyd.

Dim ond un ergyd ar y gôl gafodd yr Elyrch yn eu dwy gêm gyntaf.

Mae Crystal Palace, yn y cyfamser, wedi colli eu dwy gêm gyntaf o dan yr Iseldirwr Frank de Boer yn erbyn Huddersfield a Lerpwl, a gafodd ei benodi’n rheolwr ar ddechrau’r tymor.