Dechreuodd Uwch Gynghrair Cymru’n ôl nos Wener, wrth i Fangor groesawu Prestatyn mewn gêm oedd yn fyw ar S4C.

Bangor enillodd o 1-0, gyda’r gôl fuddugol gan Danny Holmes yn yr hanner cyntaf.

Enillodd y Seintiau Newydd o 1-0 oddi cartref yn Y Barri yn dilyn gôl gan Wes Fletcher.

A’r Derwyddon Cefn oedd yn fuddugol o 2-0 yn yr ornest yn erbyn Aberystwyth, wrth i Mike Pritchard a Matthew Eckersley rwydo.

Ar ôl buddugoliaeth wych yn erbyn y Seintiau Newydd ar benwythnos agoriadol y tymor, roedd siom i’r Dinasyddion yr wythnos ddiwethaf pan deithion nhw i’r brifddinas a cholli o 3-1 yn erbyn Met Caerdydd yng Nghyncoed.

Dywedodd rheolwr Bangor, Kevin Nicholson cyn y gêm yn erbyn tîm Neil Gibson, “Rwy wedi dweud o’r dechrau mai cymryd un gêm ar y tro ydi’r nod.

“Cawson ni ddechrau da i’r tymor yn curo’r Seintiau, ond un gêm oedd hi. Y nod yw chwarae fel y gwnaethon ni yn y gêm gyntaf a phe baen ni’n gwneud hyn, bydd gennym gyfle da i ennill y gêm yn erbyn Prestatyn.”

Collodd Prestatyn eu gêm gyntaf yn ôl yn yr Uwch Gynghrair o 4-0 oddi cartref yng Nghei Connah, ond sgoriodd Michael Parker gôl hwyr gartref yn erbyn Y Barri yr wythnos ddiwethaf i sicrhau’r triphwynt.

Fe chwaraeodd ei 200fed gêm dros ei glwb neithiwr – y chwaraewr cyntaf i glwb Gerddi Bastion i gyrraedd y garreg filltir honno.

Dydd Sadwrn

Y Bala v Met Caerdydd 14.30

Llandudno v Cei Connah 14.30

Y Drenewydd v Caerfyrddin 14.30