Mae rheolwr tîm pêl droed Caerdydd yn credu mai ei garfan bresennol yw’r chwaraewyr gorau y mae wedi eu rheoli ers ei ddyddiau gyda QPR.

Daeth ei sylwadau wrth iddo baratoi i groesawu ei gyn-gyflogwyr i’r brifddinas heddiw.

Roedd Neil Warnock yn siarad cyn y gêm am 3 o’r gloch rhwng yr Adar Gleision a QPR yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r tîm oddi cartref wedi ennill pob un o’u pedair gêm hyd yn hyn.

Fe wnaeth e drawsnewid safle Caerdydd ar waelod y Bencampwriaeth ers cymryd yr awenau fis Hydref diwethaf.

“Ges i flwyddyn wych gyda QPR pan enillon ni’r Bencampwriaeth [2010-2011], un o rai gorau fy mywyd,” meddai Neil Warnock.

“Mae yna amgylchiadau tebyg fan hyn, [wrth] gymryd yr awenau pan oedden nhw mewn trafferth, gan newid hynny dros yr haf.

“Dyma, fwy na thebyg, yw’r tîm gorau a’r ysbryd gorau o gyd-dynnu ers i fi fod gyda QPR.”