Mae newyddion cymysg i dîm pêl-droed Abertawe ar ôl asesu anafiadau nifer o chwaraewyr blaenllaw ar gyfer y daith i Crystal Palace ddydd Sadwrn.

Mae’r amddiffynnwr canol Kyle Bartley allan am hyd at ddeufis ar ôl anafu gewynnau ei goes yn y fuddugoliaeth o 4-1 dros yr MK Dons yng Nghwpan yr EFL ganol yr wythnos.

Mae disgwyl iddo fynd at arbenigwr yr wythnos nesaf er mwyn asesu pa mor ddifrifol yw’r anaf.

Dydy’r ymosodwr Fernando Llorente ddim wedi gwella’n ddigonol ar ôl torri ei fraich cyn dechrau’r tymor, ond mae capten y clwb, Leon Britton yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w gefn oedd wedi ei orfodi i golli’r gêm yn erbyn Man U yn Stadiwm Liberty yr wythnos ddiwethaf.

Kyle Bartley

Yr anaf i Kyle Bartley yw ei rwystredigaeth ddiweddaraf, ar ôl cael ei gau allan o’r garfan a gorfod mynd ar fenthyg i Leeds y tymor diwethaf.

Fe ddaeth e’n ôl ar gyfer dechrau’r tymor, a thanio ar unwaith wrth chwarae yn y tair gêm gyntaf.

Dywedodd Paul Clement fod y golled yn un sylweddol i’w dîm.

“Mae e’n chwaraewr oedd wedi gwneud yn dda iawn ar fenthyg y tymor diwethaf. Daeth e nôl i’r clwb, paratoi’n dda cyn dechrau’r tymor, arwyddo cytundeb newydd, wedi’i wthio ei hun yn ôl i mewn i’r tîm a chael yr anaf.

“Dyw’r anaf ddim cynddrwg ag y gallai fod. Mae e’n mynd i fod allan am gyfnod, ond dw i ddim yn siŵr am ba hyd eto.”

Dydy’r anaf ddim wedi newid cynlluniau’r rheolwr yn ystod y ffenest drosglwyddo, gan fod ganddo fe Federico Fernandez, Alfie Mawson a Mike van der Hoorn yn cystadlu am ddau le yng nghanol yr amddiffyn.

Ac fe awgrymodd y gallai hyd yn oed droi at yr amddiffynnwr 23 oed Joe Rodon o Dreforys pe bai argyfwng yn codi dros yr wythnosau nesaf.

“Mae Joe Rodon yn chwaraewr ifanc da iawn yn y tîm dan 23 oed, a gallwn ni ei alw fe i mewn pe bai angen, felly mae’n debygol iawn y byddwn ni’n aros gyda’r rhai sydd gyda ni.”

Fernando Llorente

Mae disgwyl i Tammy Abraham a Jordan Ayew barhau i chwarae yn yr ymosod wrth i’r Sbaenwr allweddol, Fernando Llorente geisio gwella ar ôl torri ei fraich.

“Mae’n rhy fuan i Fernando,” meddai Paul Clement. “Fydd e ddim ar gael ar gyfer y penwythnos, ond roedd hi’n agos iawn.”

Ar ôl dydd Sadwrn, does gan yr Elyrch ddim gêm tan Fedi 10, pan fyddan nhw’n croesawu Newcastle i Stadiwm Liberty.

Ychwanegodd Paul Clement: “Mae’r ffaith ein bod ni ar drothwy brêc ar gyfer y gemau rhyngwladol yn golygu y bydd e ar gael ar ôl hynny.”

Sam Clucas

Ar ôl symud o Hull yr wythnos hon, mae Sam Clucas yn barod i gael ei gynnwys yn y garfan ddydd Sadwrn.

Dywedodd Paul Clement: “Mae e’n holliach ac yn edrych yn dda.

“Fe wnaeth e baratoi’n dda cyn dechrau’r tymor, a chwarae mewn nifer o gemau felly does dim angen gwaith ychwanegol arno fe.

“Mae’n fater o benderfynu a fydda i’n ei gynnwys e yn y tîm am resymau tactegol, ond fe fydd e yn y garfan ar gyfer y penwythnos.”