Scott Quigley, ar y dde, dros TNS
Mae chwaraewr y Seintiau Newydd, Scott Quigley wedi ymuno â Blackpool yn Adran Gyntaf y Bencampwriaeth – a hynny am ffi o £50,000 sy’n record i’r pencampwyr.

Enillodd yr ymosodwr, 24, o’r Amwythig Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2014/15 ac mae’n gadael Croesoswallt wedi enill y tri thlws domestig a chynrychioli a sgorio yng ngemau Cynghrair y Pencampwyr.

“Rwy’n hynod o falch bod Scott yn mynd i gael cyfle yn adran un o’r bencampwriaeth,” meddai rheolwr y Seintiau Scott Ruscoe.  

“Mae wedi bod gyda ni am wyth mlynedd, ac mae wedi datblygu i fod yn chwaraewr ymosodol da iawn. Gyda’i  gyflymdra a’i gallu i chwarae â’r ddwy droed, roedd o’n amlwg yn mynd i gael ei gyfle. Pob lwc iddo yn Blackpool.”

Mae Scott Quigley wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd, ac mae’n dilyn nifer o chwaraewyr sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru a symud i byramid Lloegr. Yn eu plith mae Eifion Williams, Marc Lloyd Williams, Mark Delaney, Henry Jones, Jason Oswell,a Shane Sutton.