Llwyddodd 10 dyn Crewe i achub pwynt yn erbyn Casnewydd yn Ffordd Gresty er i Perry Ng gael ei anfon o’r cae ar ôl 17 munud.

Aeth y Cymry ar y blaen drwy Frank Nouble ar ôl i’r golwr Ben Garratt ollwng y bêl oddi ar ergyd gan Joss Labadie.

Roedd Ng wedi gweld cerdyn melyn cyn y gôl, ac fe welodd ail gerdyn melyn am dacl flêr funudau’n ddiweddarach.

Munud yn unig ar ôl y cerdyn coch, daeth Crewe yn gyfartal drwy Chris Dagnall, oedd wedi sgorio o groesiad isel gan George Cooper.