Gêm gyfartal ddi-sgôr gafodd Abertawe yn Southampton ar ddiwrnod cyntaf tymor yr Uwch Gynghrair.

Ond doedd rhai ddim yn synnu gyda phrif ymosodwr y naill dîm a’r llall – Virgil van Dijk a Gylfi Sigurdsson – yn absennol oherwydd eu bod nhw’n ceisio symud o’u clybiau.

Roedd Virgil van Dijk yn sâl â firws heddiw ond fyddai e ddim wedi chwarae beth bynnag, ac mae Gylfi Sigurdsson yn awyddus i fynd i Everton.

Dydy Southampton ddim wedi sgorio gôl ers 545 o funudau ar eu tomen eu hunain, ac fe gafodd yr Elyrch hi’n anodd heb Sigurdsson a Fernando Llorente.

Tarodd Manolo Gabbiadini y postyn gyda pheniad ar ôl 90 eiliad, ac fe ergydiodd Dusan Tadic heibio’r postyn o’r cwrt chwech ym munudau agoriadol y gêm.

Daeth cyfleoedd hefyd i Maya Yoshida gyda foli a pheniad, ac fe gafodd James Ward-Prowse ei atal gan arbediad Lukasz Fabianski.

Daeth cyfle hwyr i’r eilydd Charlie Adam ond fe fethodd yntau hefyd.

Daeth ambell gyfle i’r Elyrch drwy Tammy Abraham, oedd wedi penio heibio’r postyn ar ôl 10 munud, ac wedyn i Leroy Fer oedd wedi taro foli heibio’r postyn yn gynnar yn yr ail hanner.