Diwrnod siomedig gafodd Wrecsam wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn Dover.

Ryan Bird sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r Saeson yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw sicrhau ail fuddugoliaeth mewn pum niwrnod.

Ychydig iawn o gyfleoedd gafodd y Cymry o flaen torf o 600 o’u cefnogwyr.

Aeth Dover ar y blaen drwy gôl gan gyn-ymosodwr Casnewydd Bird ar ôl 18 munud yn dilyn cynorthwy gan Kane Richards.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn unfed ar bymtheg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.