Sgoriodd Nathaniel Mendez-Laing ddwy gôl wrth i Gaerdydd guro Aston Villa o 3-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf wrth iddo fe benio i’r rhwyd oddi ar groesiad gan Junior Hoilett i’r postyn pellaf.

Sgoriodd Hoilett yntau’r ail gôl ar yr awr gyda pheniad yn y cwrt cosbi.

Ac fe ddaeth ail gôl Mendez-Laing ar ôl 71 munud gydag ergyd i gornel dop y gôl.

Roedd y goliau’n ganlyniad i gyfnodau helaeth o bwysau yn yr hanner cyntaf, gyda Loic Damour a Kenneth Zohore yn dod yn agos gan orfodi Sam Johnstone i arbed sawl gwaith.

Bu’n rhaid i’r Cymro Neil Taylor glirio ergyd Damour oddi ar y llinell.

Mae Caerdydd wedi sicrhau chwe phwynt allan o chwech, a Mendez-Laing wedi sgorio tair gôl mewn dwy gêm i’w codi i frig y Bencampwriaeth.