Ennill un, colli un fu hanes Wrecsam yn y gynghrair y tymor hwn, ac maen nhw’n teithio i Dover ar gyfer gêm anodd y prynhawn yma.

Ar ôl colli yn erbyn Macclesfield ar ddiwrnod cynta’r tymor, fe lwyddon nhw i sicrhau’r triphwynt yn erbyn Caerefrog ganol wythnos gyda buddugoliaeth o 2-1.

Collodd Dover yn erbyn Bromley ar ôl curo Hartlepool.

Ar ôl perfformiad da yn erbyn Maidenhead, fe fydd Jack Mackreth yn gobeithio ailadrodd y perfformiad hwnnw i Wrecsam heddiw ar ôl symud o Bury dros yr haf.

Ond fe fydd rhaid i’r Cymry geisio tawelu Tobi Sho-Silva o flaen y gôl os ydyn nhw am sicrhau’r triphwynt.

Bydd y Cymry heb Chris Holroyd, sydd wedi’i anafu.

Yn eu chwe gêm gynghrair yn erbyn ei gilydd hyd yn hyn, Dover fu’n fuddugol mewn tair ohonyn nhw ac fe fu tair gêm gyfartal.