Aston Villa yw gwrthwynebwyr Caerdydd y prynhawn yma, wrth i’r Adar Gleision geisio dechrau eu hymgyrch gartref gyda buddugoliaeth.

Mae disgwyl nifer o newidiadau yn y tîm, wrth i Neil Etheridge, Lee Peltier, Sol Bamba a Kenneth Zohore ddychwelyd ar ôl cael gorffwys ar gyfer y gêm gwpan yn erbyn Portsmouth.

Gallai Josh Onomah, sydd ar fenthyg o Spurs, ddechrau’r gêm i Aston Villa, sydd hefyd yn debygol o groesawu John Terry, Sam Johnstone, Glenn Whelan a Gabriel Agbonlahor yn ôl.

Mae rheolwr Aston Villa, Steve Bruce eisoes wedi clustnodi’r gêm hon yn erbyn Caerdydd er mwyn ceisio gwyrdroi perfformiadau ei dîm oddi cartref.

Dim ond pedair gêm gynghrair enillodd Aston Villa oddi cartref y tymor diwethaf, ac fe gawson nhw gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Hull ddydd Sadwrn diwethaf.